Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 12 Hydref
2016
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3997
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.15
Gofynnwyd cwestiynau 1 a 3 – 9 ac 11 - 15. Trosglwyddwyd cwestiwn 2 i’w ateb yn ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith. Ni ofynnwyd cwestiwn 10. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.01
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM 6089
Lee
Waters (Llanelli)
Rhun
ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Huw
Irranca–Davies
(Ogwr)
John
Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod amryfal fanteision iechyd a lles gweithgaredddau corfforol.
2. Yn nodi mai dim ond 35 y cant o blant Cymru sy'n cael yr awr o weithgareddau corfforol a gaiff ei argymhell sydd ei angen arnynt bob dydd.
3. Yn cydnabod potensial Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i godi lefelau gweithgareddau corfforol ymysg pob grŵp oedran.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n llawn â chymunedau i ganfod y llwybrau newydd a fyddai'n cysylltu cyrchfannau lleol ac a fyddai fwyaf tebygol o gael defnydd da.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
1 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 15.56
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiadau bod British Airways yn ystyried torri 66 o swyddi yn ei gyfleuster cynnal a chadw ym Maes Awyr Caerdydd?
Dechreuodd yr eitem am 16.06
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6115 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod y rhagfarn tuag at y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, neu sydd wedi cael problemau iechyd meddwl, yn parhau, a'r effaith a gaiff hyn ar gyflogaeth, incwm a llesiant y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl.
2. Yn credu y dylai addysg yn ymwneud ag iechyd meddwl ddechrau pan fo disgyblion yn ifanc ac y dylai ysgolion gael yr adnoddau i hyrwyddo llesiant ymysg pob disgybl.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) parhau i fynd i'r afael â rhagfarn a chwilio am bwerau dros gyfraith cyflogaeth er mwyn gallu cryfhau ffyrdd o ddiogelu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn y gwaith; a
b) sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus yn archwilio ffyrdd y gellir gwella eu harferion eu hunain i gyfrannu at well iechyd meddwl.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
5 |
37 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro):
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi terfyn ar weithio digyswllt wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl; a
b) gweithio ar draws y sector cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl, gan hyrwyddo technegau ataliol, fel therapïau siarad ac ymwybyddiaeth ofalgar.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
9 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6115 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod y rhagfarn tuag at y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, neu sydd wedi cael problemau iechyd meddwl, yn parhau, a'r effaith a gaiff hyn ar gyflogaeth, incwm a llesiant y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl.
2. Yn credu y dylai addysg yn ymwneud ag iechyd meddwl ddechrau pan fo disgyblion yn ifanc ac y dylai ysgolion gael yr adnoddau i hyrwyddo llesiant ymysg pob disgybl.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) rhoi terfyn ar weithio digyswllt wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl; a
b) gweithio ar draws y sector cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl, gan hyrwyddo technegau ataliol, fel therapïau siarad ac ymwybyddiaeth ofalgar.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6114 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod angen deddfwriaeth benodol ar gyfer awtistiaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno bil awtistiaeth (Cymru) yn ystod tymor y Pumed Cynulliad.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
27 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 18.14
Dechreuodd yr eitem am 18.17
NDM6116 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ymuno â'r Achos: Menywod, Cymru a'r Gymanwlad' - rôl Menywod Seneddol y Gymanwlad yn y cyfnod ar ôl gadael yr UE.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.45
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 18 Hydref 2016